Yn awr y gwn fod Iesu cu,
Yn Seion fry'n teyrnasu;
Mae'n rhoddi im' arwyddion braf,
O'r rhydd-did gaf feddiannu.
Blwyddyn y carcharorion caeth,
O'r diwedd ddaeth i fynu;
Nesau mae gwaredigaeth lawn,
I'r rhai sy'n cyflawn gredu.
Bron darfod y mae'r aiphtiaidd nos,
O'n poen a'n loes
cawn orphwys;
Crist, colofn dân, mewn anial dir,
A'm dwg i'r wir baradwys.
Fy mhechod oll caf dan fy nhraed,
Trwy rhinwedd gwaed yr Iesu;
Diystyra 'i'n llwyr
eu grym a'u llid,
Ca'i gwel'd hwy gyd yn trengu.
Er gwaetha grym uffernol griw,
Hyd byth mae Duw a'i gariad:
Mae'r Iesu'm Pen yn gadarn graig,
Diddymma'r ddraig
a'i bwriad.
Y cysur llon,
ar gwynfyd llawn,
Gaiff rhai sy'n cyflawn gredu;
Sydd fwy nag all tafodau cu,
Angylion fry fanegu.
Yspryd fy Nuw o'm mewn a drig,
'Rwy'n deml ddiddig iddo;
Fe'm dysg yn rhad byth
fore a hwyr,
Nes caffwi'm llwyr sancteiddio.
Am wybod mwy o'm Iesu hael,
Mae f'enaid gwael yn brefu;
Cyflawnder mawr ei gariau cu,
Wyf am gael i feddiannu.
William Williams 1717-91Aleluia 1749
Tôn [MS 8787]: Otford (<1811)
gwelir: B'le tro' fy wyneb Arglwydd cu? Blwyddyn y carcharorion caeth |
Now I know that dear Jesus is,
In Zion above reigning;
He is giving me good signs,
Of the freedom I shall get to possess.
The year of the captive prisoners,
At last has come up;
Approaching is full deliverance,
For those who are fully believing.
Almost fading is the Egypt-like night,
From our pain and our anguish
we shall get rest;
Christ, a pillar of fire, in a desert land,
Shall bring me to the true paradise.
I shall get all my sins under my feet,
Through the merit of the blood of Jesus;
I shall completely disregard
their force and their wrath,
I shall see them all perishing.
Despite the force of an infernal band,
Forever is God and his love:
Jesus my Head is a firm rock,
He shall bring to naught the dragon
and his intention.
The cheerful comfort,
and the full blessedness,
Shall they get who fully believe;
Which are more than the dear tongues of
Angels above can express.
The Spirit of my God within me is residing,
I am a genial temple for him;
He teaches me freely forever
morning and evening,
Until I get completely sanctified.
To know more of my generous Jesus,
Is my poor soul bleating;
The great fullness of his dear love,
I want to get to possess.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|